Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

 

Y bwriad polisi ar gyfer rheoliadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau

 

 

 

 

Mehefin 2022

 

 

 

 

 

 


 

BILL PARTNERIAETH GYMDEITHASOL A CHAFFAEL CYHOEDDUS (CYMRU)

Y BWRIAD POLISI AR GYFER IS-DDEDDFWRIAETH, CYFARWYDDIADAU A CHANLLAWIAU

 

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r bwriad polisi presennol ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth, y cyfarwyddiadau a'r canllawiau y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i'w gwneud neu y mae'n ofynnol iddynt eu gwneud o dan ddarpariaethau Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (‘y Bil’). Mae wedi cael ei chyhoeddi er mwyn helpu'r Pwyllgor cyfrifol pan fydd yn craffu ar y Bil, a dylid ei darllen ar y cyd â'r Memorandwm Esboniadol a'r Nodiadau Esboniadol.

 

Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer gwella llesiant pobl Cymru, drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaethau cymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol.

 

Yn gryno, mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:

 

·         sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;

 

·         dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill eu staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015;

 

·         dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr, drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015;

 

·         diwygio adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' o fewn y nod presennol ‘Cymru ffyniannus’ (un o'r nodau llesiant y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf gyfrannu atynt);

 

·         dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol wrth gynnal eu gweithgareddau caffael, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant ac i gyhoeddi strategaeth gaffael;  

 

·         rhai cyrff cyhoeddus yn cyflawni dyletswyddau rheoli contractau i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu ceisio drwy gadwyni cyflenwi cyfan;

 

·         gosod dyletswyddau adrodd ar y cyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael.  

 

 

 


 


Adran

Disgrifiad

Y Bwriad Polisi

Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

7(4)

7(6)

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi set o weithdrefnau ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol sy'n amlinelli'r ffordd y bydd y Cyngor yn gweithredu.

Bydd gweithdrefnau'r Cyngor yn nodi manylion ffordd o weithredu'r Cyngor nad ydynt wedi'u hamlinellu yn y Bil. Mae terfyn amser ar gyfer cyhoeddi'r gweithdrefnau hyn, sy'n dechrau'r diwrnod ar ôl i is-adran 7(4) ddod i rym, fel nad oes unrhyw oedi wrth i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ddod yn weithredol.

 

9(2)

9(4)

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi set o weithdrefnau ar gyfer yr is-grŵp caffael cyhoeddus sy'n amlinellu sut bydd yr is-grŵp yn gweithredu.

Yn debyg i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, bydd gweithdrefnau'r is-grŵp yn nodi'r manylion gweithredol a'r ffordd y bydd yr is-grŵp yn cael ei sefydlu a'i lywodraethu. Rhoddir terfyn amser o chwe mis i’r rheini sy’n cyhoeddi’r gweithdrefnau hyn, sy'n dechrau pan fydd yr is-adran hon yn dod i rym, fel nad oes unrhyw oedi wrth i'r is-grŵp caffael cyhoeddus ddod yn weithredol.

 

Y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol – Cyrff Cyhoeddus

16 (3)

 

 

 

 

 

 

 

Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer y cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Wrth ystyried yr hyn sy'n rhesymol o dan adran 16(1) o'r Bil, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried gwybodaeth a chyngor a dderbynnir gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar weithredu'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, pan fyddant yn penderfynu a oes angen canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus a beth fydd cynnwys y canllawiau hynny. Mae'n bosibl y bydd y canllawiau’n ymdrin â'r ffordd mae staff a gweithwyr yn cael eu cynrychioli pan na fydd undeb llafur cydnabyddedig; beth yw 'penderfyniad strategol ei natur' mewn perthynas â'r camau rhesymol y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu cymryd (wrth arfer eu swyddogaethau) er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant o dan Adran 3(2)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015; natur y wybodaeth y dylid ei gwneud  ar gael er mwyn hwyluso'r broses o drafod ag undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill; neu faint o amser y dylid ei ganiatáu ar gyfer ymgynghori â thrafod ag undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill. 

 

Mae'n bosibl hefyd y bydd angen canllawiau ar y ffordd mae'r ddyletswydd i geisio cyfaddawd a chonsensws mewn perthynas â'r materion hyn yn wahanol i ofyniad syml i ymgynghori.

 

 

Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol

22(4)

Caiff Gweinidogion Cymru addasu, drwy reoliadau, ystyr 'awdurdod contractio', 'ardal awdurdod contractio' a'r rhestr o awdurdodau contractio sy'n cael eu cynnwys yn Atodlen 1.

Gelwir y cyrff sy'n ddarostyngedig i'r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol yn ‘awdurdodau contractio’ a ddiffinnir y rhain fel y rheini a restrir yn Atodlen 1. Cafodd y cyrff hyn eu dewis yng ngoleuni materion sy'n cynnwys maint a natur eu gweithgareddau caffael. Mae'n bosibl y bydd angen newid y rhestr o gyrff sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd o bryd i'w gilydd gan gynnwys, o bosibl, pan fydd cyrff newydd yn cael eu creu, neu pan fydd enw neu weithgareddau corff yn newid.

 

Gydag amser, mae'n bosibl y bydd cyrff eraill yn cael eu hychwanegu neu eu tynnu o'r rhestr, yn dibynnu ar y meini prawf hyn, neu gallai Gweinidogion ddewis newid y meini prawf hyn neu ddiffiniad ardal awdurdod contractio. Mae'r pŵer hwn i wneud rheoliadau'n caniatáu newid.

 

24(8)(c)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n diffinio ‘contract rhagnodedig’

Er bod y ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn berthnasol i holl weithgareddau caffael awdurdod contractio, mae'n rhaid cyhoeddi amcanion a gweithgareddau penodol mewn perthynas â'r categori o gaffael a ddisgrifir fel ‘contractau rhagnodedig’. Mae'r rhain yn cynnwys contractau adeiladu mawr (a ddiffinnir yn adran 25), contractau allanoli gwasanaethau (a ddiffinnir yn adran 26) ac unrhyw wasanaeth sy'n cael ei ragnodi gan weinidogion Cymru.

 

Dim ond i gontractau adeiladu mawr a chontractau allanoli gwasanaethau y mae dyletswyddau rheoli contract penodol wedi cael eu cymhwyso ar yr adeg hon - ond yn y dyfodol caiff Gweinidogion Cymru ddewis cynnwys categorïau eraill yn y dyletswyddau rheoli contract hyn.  

 

Y bwriad polisi yw bod y diffiniad o ‘unrhyw gontract cyhoeddus arall’ yn cael ei gysylltu â'r trothwyon ariannol eraill sy'n cael eu pennu gan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau ac sy'n cael eu diweddaru bob dwy flynedd.

 

Mae'r pŵer hwn i wneud rheoliadau'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiffinio'r categorïau gwariant a'r trothwyon ariannol sydd eu hangen i ddiffinio ‘contractau rhagnodedig’, yn unol â Chytundeb Masnach y Byd i ddechrau, a phan fyddant yn cael eu diweddaru.

 

Mae adran 21(2) yn egluro y dylid ymdrin â chontractau a ddyfernir o ganlyniad i gytundebau fframwaith (fel y'u diffinnir yn adran (45)(1) yn yr un modd â chontractau cyhoeddus eraill.

 

 

25(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio diffiniad ‘contract adeiladu mawr’ drwy reoliadau.

Fel y'i disgrifir uchod, mae'r categori ‘contractau rhagnodedig’ yn cynnwys ‘contractau adeiladu mawr’, a ddisgrifir yn 25(2) fel gweithiau cyhoeddus, contractau gweithiau neu gontractau consesiwn gweithiau sydd â gwerth amcangyfrifedig o dros £2 miliwn, heb gynnwys TAW. Mae'r pŵer hwn i wneud rheoliadau'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddiweddaru trothwy neu unrhyw agwedd arall ar y diffiniad hwn.

 

27(1) a (2)

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol i'w cynnwys mewn contractau adeiladau mawr, er mwyn cyflawni'r gwelliannau a restrir yn y tabl yn 27(2). Mae'r tabl yn categoreiddio'r gwelliannau hyn.

 

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gymalau gael eu cynnwys ym mhob contract adeiladu mawr, a bod proses ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu drwy gadwyni cyflenwi cyfan.

 

Y bwriad yw y bydd y cymalau hyn yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â chanllawiau statudol a gyhoeddir o dan adran 43 a fydd yn egluro sut y byddant yn cael eu gweithredu.

 

Mae'r categorïau y bydd y cymalau hynny'n berthnasol iddynt a'r gwelliannau sydd i'w cyflawni gan y cymalau hynny'n cael eu hamlinellu yn y tabl yn adran 27(2).

 

Mae'r adran hon yn pennu paramedrau ar gyfer y pynciau y byddant yn eu cynnwys. Mae'r categorïau y mae angen ceisio gwelliannau ynddynt drwy ddefnyddio'r cymalau sydd wedi cael eu drafftio fel a ganlyn (crynodeb):

·         Talu yn brydlon

·         Sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth ar waith

·         Sicrhau y cydymffurfir â chyfraith cyflogaeth

·         Darparu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr

·         Darparu cyfleoedd is-gontractio ar gyfer busnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol

·         Rheoli amgylcheddol a chydnerthedd yr hinsawdd.

 

30(4)

Mae hyn yn rhoi pŵer i wneud cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru y gellir ei ddefnyddio os nad yw awdurdod contractio yn rhoi rhesymau digonol pam nad yw'n bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr neu roi prosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu. 

 

Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod contractio gynnwys y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr, a rhoi prosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu, os asesir nad yw'r rhesymau a roddwyd dros beidio â'u cynnwys yn ddigonol.

 

Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion roi cyfarwyddyd i awdurdod contractio, oherwydd efallai y bydd sefyllfa lle, er nad yw'r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod contractio dros beidio â chynnwys y cymalau yn ddigonol, efallai nad yw’n gwneud rhoi cyfarwyddyd yn ofynnol am resymau ymarferol eraill – ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.

 

 

32(1)

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ymarfer allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei ystyried.

Y bwriad polisi yw disodli’r Cod Ymarfer (dwy haen) ar Faterion y Gweithlu a'r canllawiau a'r nodyn cyngor caffael cysylltiedig, a gyhoeddwyd yn 2014. Ar hyn o bryd mae'r cod yn ganllawiau i helpu cyrff cyhoeddus pan fyddant yn trosglwyddo staff i drydydd parti fel rhan o gontract allanoli.

 

Nid yw amcanion y Cod newydd yn wahanol i amcanion yr hen God, ac maent yn cael eu hamlinellu yn (adran 33):

·         sicrhau, pan fydd staff sector cyhoeddus yn cael eu trosglwyddo, fod telerau ac amodau eu cyflogaeth yn cael eu diogelu;

·         sicrhau, pan fydd staff yn cael eu cyflogi wedyn i weithio ochr yn ochr â'r gweithlu a gafodd ei drosglwyddo, nad yw telerau ac amodau eu cyflogaeth yn llai ffafriol, a bod darpariaeth resymol yn cael eu gwneud ar gyfer pensiwn; 

·         ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio fonitro ac adrodd ar y ffordd mae'r Cod yn cael ei weithredu.

 

Fodd bynnag, o dan y Bil bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio ystyried y Cod pan fyddant yn cyflawni eu dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol o dan adran 24(5)(c) ac adran 26(1)(a).

 

Yn dilyn adolygiad o'r Cod presennol, mae angen diweddaru nifer o faterion yn y Cod newydd er mwyn rhoi sylw i ddatblygiadau diweddar a gwella'r Cod mewn ffyrdd eraill.

 

Bydd y Cod yn cynnwys cymalau contract enghreifftiol, y ‘cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol’ sydd wedi'u cynllunio i gyflawni'r nodau a restrir uchod ac sy'n cael eu disgrifio yn adrannau 33 (a) i (c).

 

Rhaid i'r Cod, ac unrhyw adolygiad ohono wedyn, gael ei gyhoeddi a'i osod gerbron y Senedd.

 

36(4)

Mae hyn yn rhoi pŵer i wneud cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru y gellir ei ddefnyddio os nad yw awdurdod contractio yn rhoi rhesymau digonol pam nad yw'r bwriadu cynnwys y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau, neu roi prosesau ar waith i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu.

 

Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwydd i awdurdod contractio gynnwys y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau, a rhoi prosesau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu os asesir nad yw’r rhesymau dros beidio â'u cynnwys yn ddigonol.

 

Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion roi cyfarwyddyd i awdurdod contractio, oherwydd efallai y bydd sefyllfa lle, er nad yw'r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod contractio am beidio â chynnwys y cymalau yn ddigonol, efallai nad yw’n gwneud rhoi cyfarwyddyd yn ofynnol am resymau ymarferol eraill – ond nid  oes rhaid iddynt wneud hynny.

 

38(3)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n diwygio neu'n ychwanegu at y categorïau o gynnwys y mae'n rhaid eu cynnwys yn y strategaeth gaffael a gyhoeddir gan awdurdod contractio.

Mae cyhoeddi strategaeth gaffael yn un o'r dyletswyddau a roddir ar awdurdodau contractio sydd wedi'u cynllunio i wneud gweithgareddau caffael yn fwy tryloyw. Nid yw'r Bil yn nodi yn fanwl yr hyn y dylid ei gynnwys yn y strategaeth, dim ond ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau nodi'r ffordd maent yn cydymffurfio â'r ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol ac i gymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol. Hefyd mae'n ofynnol iddynt gynnwys eu gweithdrefn ar gyfer talu'n brydlon

 

Mae llawer o awdurdodau contractio eisoes yn cyhoeddi strategaeth gaffael, a byddant yn cael eu hannog i barhau i gynnwys unrhyw faterion eraill y maent o'r farn ei bod yn briodol eu cynnwys, gan gynnwys caffael cymdeithasol gyfrifol.

 

Mae'r pŵer hwn i wneud rheoliadau'n caniatáu i Weinidogion gynnwys unrhyw faterion eraill sydd i'w cynnwys mewn strategaethau caffael, ac i ddiwygio'r gofyniad i dalu o fewn 30 diwrnod. Disgwylir i Fil Diwygio Caffael y DU wneud darpariaeth i Weinidogion Cymru leihau'r gofyniad 30 diwrnod, a byddai gwneud hyn yn golygu arfer y pŵer hwn i wneud rheoliadau.

 

 

39(2)(e)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n diwygio neu'n ychwanegu at y categorïau o gynnwys y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan awdurdod contractio.

Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yn un o'r dyletswyddau a roddir ar awdurdodau contractio sydd wedi'u cynllunio i wneud gweithgareddau caffael yn fwy tryloyw. Mae'r Bil yn crynhoi'r wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn yr adroddiad:

·         crynodeb o ‘gaffaeliadau rhagnodedig’

·         i ba raddau y cafodd yr amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol eu cyflawni

·         camau eraill y gellid eu cymryd yn y dyfodol i sicrhau y cyflawnir yr amcanion yn well

·         crynodeb o weithgareddau caffael sydd ‘ar y gweill’ – caffael y disgwylir iddo gael ei gynnal yn y ddwy flynedd nesaf.

 

Am ei bod yn debygol y bydd y wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn yr adroddiadau hyn yn debyg i'r deunydd sy'n gysylltiedig â chaffael yn yr adroddiadau blynyddol mae eisoes yn ofynnol i'r cyrff hynny sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 eu cyflwyno, y bwriad polisi yw bod yr adrodd yn gydgysylltiedig ac yn syml er mwyn lleihau'r llwyth gwaith ar gyfer yr awdurdodau contractio o dan sylw.

 

Mae'r pŵer hwn i wneud rheoliadau'n caniatáu i Weinidogion Cymru ofyn i wybodaeth ychwanegol gael ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol.

 

40(2)

Bydd Gweinidogion Cymru yn pennu, drwy reoliadau, ystyr ‘contract cofrestradwy’.

Bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi a chynnal cofrestr o'r contractau maent wedi ymrwymo iddynt, gan gynnwys y dyddiad y dyfarnwyd y contract, enw'r contractwr, y mater dan sylw, y gwerth amcangyfrifedig, y dyddiadau dechrau a dod i ben disgwyliedig ac unrhyw opsiynau posibl ar gyfer estyn y contract.

 

Bydd y rheoliad hwn yn caniatáu i Weinidogion nodi, ymhlith materion eraill, y gwerthoedd disgwyliedig a'r mathau o gontract y mae'n rhaid eu cynnwys ar y gofrestr. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gontractau sy'n llai na'r ‘contractau rhagnodedig’ a ddiffinnir yn y Bil a rheoliadau eraill. Mae'n debygol y bydd Bil Diwygio Caffael y DU yn cynnwys llawer o ddarpariaethau sydd â'r nod o gynyddu tryloywder, ynghyd â'r trothwyon ariannol cysylltiedig. Er mwyn lleihau'r llwyth gwaith ar awdurdodau contractio, y bwriad yw bydd y gofynion hyn yn cael eu symleiddio.

 

43(1) a (2)

Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Rhan 3 o'r Bil, yn enwedig Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol, i helpu awdurdodau contractio wrth wneud y canlynol:

·         caffael mewn ffordd cymdeithasol gyfrifol;

·         pennu amcanion a chymryd pob cam rhesymol i'w cyflawni;

·         gweithredu'r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a'r cod ymarfer allanoli contractau a'r gweithlu;

·         paratoi strategaethau caffael ac adroddiadau blynyddol.

 

Bydd hyn yn caniatáu cyhoeddi canllawiau ar bob agwedd ar Ran 3 o'r Bil, ac nid y rheini a restrir yn yr is-adran ganlynol. Mae'n bosibl y bydd, ymhlith pethau eraill, yn amlinellu'n fanylach sut y byddai Ymchwiliad Caffael yn gweithio – er enghraifft, y dystiolaeth a allai sbarduno ymchwiliad a'r broses a fyddai'n cael ei dilyn.

 

Bydd canllawiau clir a manwl ar sut i gynnal pob gweithgaredd caffael mewn ffordd cymdeithasol gyfrifol, gan geisio gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ei ardal. Bydd y canllawiau'n egluro sut y dylai fod modd addasu'r gofyniad hwn ar gyfer caffaeliadau â gwerthoedd a phroffiliau risg gwahanol. Ar gyfer ‘contractau rhagnodedig’ mwy, bydd y cyngor yn cynnwys sut i bennu amcanion priodol y gellir eu monitro neu eu mesur ac adrodd amdanynt.

 

Bydd y canllawiau'n cynnwys yr hyn mae angen ei ystyried ymhob categori yn ystod gwahanol gamau ymarfer caffael. Mae camau'n cynnwys pennu cwmpas y gofyniad a'r opsiynau ar gyfer caffael, profi'r farchnad, y fanyleb, paratoi cymalau contract, cynnal y contract, cytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol a rheoli'r contract a'r gadwyn gyflenwi.

 

Ym mhob un o'r categorïau llesiant bydd amryw ystyriaethau'n berthnasol. Er enghraifft:

·         Yn y categori llesiant economaidd bydd angen ystyried a ddylid pecynnu'r gofyniad mewn ffordd sy'n annog cyflenwyr llai a chyflenwyr lleol i gyflwyno cynnig am gontractau neu is-gontractau, a dulliau ar gyfer gwella arferion talu o fewn cadwyni cyflenwi.

·         Yn y categori llesiant cymdeithasol, bydd cyfleoedd ar gyfer gwella llesiant gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a risgiau arferion cyflogaeth gwael yn cael eu hystyried.

·         Yn y categori llesiant amgylcheddol bydd ystyriaethau mewn perthynas â lleihau gwastraff, datgarboneiddio, caffael cynaliadwy, cydnerthedd yr amgylchedd a gwella'r amgylchedd naturiol ac amrywiaeth yn cael eu cynnwys.

·         Yn y categori llesiant diwylliannol bwriedir amlinellir canllawiau mewn perthynas â chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Nid yw'r rhestrau'n cynnwys popeth.

 

Bydd angen cysylltu'r canllawiau statudol wedi'u datblygu ar gyfer y Bil hwn â chanllawiau eraill wedi'u datblygu i ategu deddfwriaeth Diwygio Caffael y DU, a llawer o'r canllawiau presennol sydd eisoes yn cael eu defnyddio.

 

Bydd cysylltiadau clir hefyd yn cael eu gwneud rhwng y canllawiau statudol hyn a Datganiad Polisi Caffael Cymru.

 

Bydd canllawiau'n cael eu datblygu i gefnogi'r dyletswyddau rheoli contractau ar gyfer prosiectau adeiladu mawr a gweithredu cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol. Bydd y rhain yn egluro sut y dylid defnyddio'r cymalau, gan roi enghreifftiau o brosesau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Byddai enghreifftiau'n cynnwys sut y gellir defnyddio archwiliadau a phrosesau diwydrwydd dyladwy i sicrhau y cydymffurfir â chyfraith cyflogaeth ar gyfer gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi, defnyddio deunyddiau cynaliadwy a chydymffurfio wrth waredu gwastraff.

 

Bydd y canllawiau'n amlinellu manylion ymarferol ynghylch anfon hysbysiad at Lywodraeth Cymru os nad yw awdurdod contractio'n bwriadu cynnwys cymalau mewn gweithgaredd caffael perthnasol, ac yn rhoi proses ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn cadwyni cyflenwi. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses hysbysu'n cael eu cynnwys, a bydd mecanwaith yn cael ei ddatblygu ar gyfer adrodd ar y canlyniad.

 

Mewn ffordd debyg, bydd Cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu’n cael ei gynhyrchu i ddiweddaru’r Cod presennol (dwy haen) ar Faterion y Gweithlu, a fydd yn amlinellu sut y dylid defnyddio'r cymalau enghreifftiol newydd, ynghyd â manylion ynglŷn â'r angen i anfon hysbysiad ar Lywodraeth Cymru, ynghyd â manylion y broses hysbysu.

 

Bydd canllawiau ar gyhoeddi strategaethau caffael yn cael eu datblygu, gan amlinellu'r hyn mae angen ei gynnwys a rhoi enghreifftiau.

 

Bwriedir y bydd y canllawiau ar gyhoeddi adroddiadau blynyddol yn cynnwys manylion y data y mae'n rhaid ei gasglu ac adrodd arno yn erbyn pob un o'r amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol a bennir. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar ddiffinio canlyniadau a metrigau ar gyfer caffael wedi'u cysylltu â nodau llesiant, a bydd y rhain yn cael eu bwydo i mewn i'r canllawiau statudol.